





Mae’n 02 Mis Ionawr ac mae’r Nadolig wedi gorffen eto- yn rhy gyflym. Yr wythnos diwetha chwaraeais i golff eto, gyda Gareth, roedd y tywydd yn ddrwg dros y Nadolig ac roedd hi’n oer iawn ar y cwrs golff. Dynion gwrol! Dechrauais i gadw’n heini eto, bwytais i ormod dros y gwyliau. Ddydd Mercher diwetha aethon ni i’r Bryngwyn ym Mhwll a gaethon ni fwyd ardderchog. Ymwelon ni â fy nhri mab ar fy tri wyrion i ginio heddiw, neis iawn ond mae fy wyr ifanca’n brysur iawn.Ro’n i wedi blino’n lân, henaint ni ddaw ei hunan!! Ond neis iawn i gael wyrion.
Annwyl Gyfeillion,
Wel dyn ni ar y ffordd yn ôl nawr, mae’r dydd byra wedi bod. Dw i’n meddwl ein bod ni’n gallu edrych ymlaen at y dyddiau hirach yn dod o’n blaen ni, a’r tywydd yn gwella hefyd. Fore dydd Mercher chwaraeais i gêm o golff gyda Mike o’r dosbarth Cymraeg, roedd y cwrs yn eitha da ar ôl yr eira a dweud y gwir.
Nos Iau diwetha es i i’r “Biddings” i ddathlu’r Nadolig gyda Neil Cymraeg,
Neil Saesneg, Allan a Gareth(dim drwg ar y noson!). Roedd y noson yn ddoniol a hyfryd.
Cynhyd bod y siopau ar agor, siopodd fy ngwgraig yn frwdfrydig. Ro’n i happus iawn pan oedd y siopau yn cau.
Ganol fore dydd Nadolig, ymwelon ni â fy ail fab Dean, ei wraig e Suzi a
fy wyrion Elena a Lewis - ro’n nhw yn gyffrous iawn. Roedd Sion Corn
wedi dod â llawer o anrhegion. Gaethon ni dwrci mawr i ginio
Nadolig - bwyton ni ormod o fwyd, wrth gwrs. Roedd noswaith Nadolig
dawel ac edrychon ni ar y teledu.
Chwaraeais i ddim golff dros yr wythnos ddiwetha oherwydd roedd y tywydd
yn ofnadwy. Dw i’n meddwl fyddwn i ddim wedi ffindio’r bêl gwyn yn yr
eira os ro’n i wedi chwarae beth bynnag. Rhagor o amser i siopa
Nadolig dwedodd fy ngwraig, neis iawn! Un peth da, edrychais i ar y
Scarlets ar y teledu, enillodd y Scarlets yn erbyn Benetton Treviso yn
Yr Eidal yng Nghwpan Heineken. Mae Scarlets ar ben eu grŵp nhw. Fore dydd
Sul daeth fy wyress hena i ginio, mae hi’n ddeuddeg oed, gwnaeth hi’n
siwr bod Sion Corn yn gwneud dim camgymeiriadau gyda ei hanrhegion hi!! Dw
i’n gobeithio roedd y Nadolig neis ‘da chi a Blwyddyn Newydd Dda i
bawb.
Annwyl Gyfeillion,
Cawson ni noswaith dda iawn nos Iau diwetha yng ngwesty’r ‘Thomas Arms’ gyda’r bobl o’n dosbarth ni a’r bobl o’r dosbarth Uwch. Roedd y bwyd yn flasus a’r cwrw a gwin yn neis hefyd. Doedd cwpwl o bobl ddim yn gallu dod achos bod y tywydd yn wael neu ro’n nhw’n sâl, ond roedd Mike, Allan, Scott, Neil a fi o’n dosbarth ni, fy ngwraig Jackie a chwech o’r dosbarth Uwch dw i’n credu. Roedd Scott yn hwyr fel arfer. Aeth y noswaith yn dda iawn, dw i’n credu.