21/09/2007

Stori Neil

Wythnos nesaf, bydd lluniau ar y blog o Neil ar ei daith i Lundain i flasu cwrw - enw'r daith yw "Perygl yn Earls Court". Dw i'n gobeithio y bydd Neil yn gallu rhoi'r stori i ni pan fydd y dosbarth yn ail-ddechrau.

Stori Ruth

Dyma stori wrth Ruth am taith dros yr haf.

Taith ryfeddol!
Aethon ni, yn yr haf , ar gwch gyda deuddeg seddau, o Fwmbwls i Ben Pyrhod.
Roedd yr haul yn gwenu!
Roedd y môr mor las!
Roedd y tywydd yn hyfryd!
Gadawon ni Mwmbwls ac aethon ni heibio baeau De Gŵyr;
Bracelet,
Langland,
Caswell,
Pwll Du,
Three Cliffs,
Porth Einon,
tan i ni gyrraedd Pen Pyrhod.

Golygfa ysblenydd!

Ar ôl cael picnic bach, dywedon ni ffarwél i Ben Pyrhod a dechreuon ni ar ein taith yn ôl i Fae Mwmbwls.
Y tro yma gwelon ni Ogof Paviland yn glir ac aethon ni i fae prydferth, Bae Oxwich.
Cyrraeddon ni Mwmbwls ar ôl taith fythgofiadwy a phrofiad arbennig!

Croeso nôl!

Dw i nôl o fy ngwyliau nawr ac wedi anfon cwpwl o gwestiynau ma's am bennod 11. Bydd yr atebion ar y blog yn gynnar yr wythnos nesaf.

14/08/2007

Grwp sgwrsio newydd
Mae grwp sgwrsio newydd yn dechrau heno yn nhafarn y Farmers Porth Tywyn am 7.15. Bydd y grwp yn cwrdd bob nos Fawrth.
Ewch draw am sgwrs!

09/08/2007

Atebion Pennod 6.

1. Nage, pobl gyfoethog oedd yn byw yn El Plantio.
2. Cyrhaeddodd debra El Plantio ar y metro ac ar y bws
3. Roedd e’n ifanc, tua ugain oed.
4. Roedd y bws yn gadael El Plantio am Fadrid am chwech o’r gloch.
5. Menyw atebodd ddrws Senor Lopez.
6. Meddygon, peirianwyr, cyfreithwyr a phenseiri oedd swyddi rhai o’r bobl oedd yn byw yn El Plantio.


Dw i’n mynd ar fy ngwyliau nawr felly darllennwch pennod 7 – 10 ac ysgrifennwch 2 gwestiwn ar gyfer pob pennod. Anfonwch nhw ata i ar e-bost.

Diolch ac fe anfona i e-bost atoch chi ar ôl i fi ddod nôl o fy ngwyliau - mwynhewch y darllen!
Neges wrth Neil:-

Dw i'n teithio i Lundain yfory i fynd i'r Ŵyl Gwrw yn Earls Court pan dw i wedi gorffen yn y dosbarth Cymraeg yn Altalia. Bydda i’n dod yn ôl ddydd Mawrth. Dw i'n meddwl bydda i’n mwynhau - mae naw cant cwrw i’w trio!

06/08/2007

Sut mae?

Sut mae pawb? Gobeithio eich bod yn mwynhau'r llyfr - beth am anfon neges ata i a galla i ei roi ar y blog drosto chi?
Dyma atebion ar gyfer cwetiynau Pennod 5 a dw i wedi anfon cwestiynau Pennod 6 atoch chi ar e-bost.


Atebion Pennod 5

1. Roedd Debra wedi cysgu’n wael.
2. Roedd e’n ddyn tew, hapus.
3. Roedd annwyd arni hi.
4. Fel arfer mae’r tywydd yn sych yn Leon.
5. Un person gyda’r enw “Lopez” oedd yn byw yn Stryd Menendez, El Pantio.
6. Cafodd Debra frechdan salami a choffi i frecwast.