30/09/2011
Dechreuodd y dosbarth Cymraeg neithiwr - Uwch 1. Roedd 7 o ddysgwyr yn y dosbarth. Ces i neges testun wrth Victoria brynhawn ddoe - mae hi'n dost yn y gwely ar hyn o bryd, mae'r ffliw arni. Gobeithio bydd hi'n temlo'n well cyn bo hir - roedd ei merch Seren yn edrych ar ei hôl hi! Mae Victoria yn gobeithio dod nôl i'r dosbarth wythnos nesa' - wedyn bydd 8 ohonon ni.
Roedd hi'n hyfryd cael Neil nôl yn y dosbarth - daeth e ag afal i fi. Dw i wedi cadw'r afal ar gyfer fy nghinio heddi ac yn edrych ymlaen i'w fwyta!
Hefyd, croeso i Julie a Louise i'r dosbarth.
Mae pawb nawr yn edrych ymlaen i'r flwyddyn ac wrth gwrs i fynd ma's i gael parti amser y Nadolig.
Gwela i bawb nos Iau nesa,
Caryl
19/09/2011
Tamaid bach o newyddion - mae Jackie a fi'n dathlu penblwydd ein priodas ni heddiw, y pedwerydd ar bymtheg o fis Medi, saith mlynedd a deugain (amser hir iawn, dych chi’n cytuno?). Hefyd, mae Jackie yn cael ei phen-blwydd hi wythnos nesa (pum mlynedd a thrigain oed), Mae hi wedi cadw'n dda iawn yn fy marn i (peidiwch dweud mod i wedi dweud hynny).
02/09/2011
Yn ddiweddar aethon ni i garnifal Porth Tywyn, roedd y tywydd yn dda
a phawb yn ymddangos yn mwynhau eu hunain. Ar y brig oedd y “Red
Devils”, parasiwtwyr o’n nhw a neidion nhw o’r awyr o uchder o ddeg mil troedfedd a
glanion nhw drws nesaf i faes y carnifal.
Ddiwed y tymor aeth y dosbarth Cymraeg i gael cyri yn nhŷ bwyta’r
Ali Raj. Roedd y bwyd yn flasus iawn - hefyd roedd y cwrw a’r gwin yn dda.
Pan aethon ni i dalu, darganfodon ni bod Neil wedi talu’r biliau! Roedd
Neil wedi body n lwcus iawn a’r EBay a gwnaeth e lawer o arian. Am ddyn! Bydd rhaid
i fy ei adael e i ennill yn golf nawr!
Amser tawel yn ddiweddar, gwnes i gadw’n heini yn yclwb a chwarae
golff fel arfer.
Roedd y dosbarth yn adolygu Cymraeg yn Llynoedd Delta gyda David Ursine
Princes fel tiwtor. Roedd y dosbarth yn ddoniol ac ymarferol. Roedd y
Pedwar Musketeer o fy nosbarth i a chewch arall yn mwynhau eu hunain.
Cafodd fy ail fab ei benblwydd yr wythnos diwetha - pedawr deg oed! Dw i’n
teimlo hen- trist! Aeth e a’i wraig e i dy bwyta newydd, Sospan, yn
Noc y Gogledd. Dim on £99 am y ddau! Roedd y bwyd yn flasus iawn ond
roedd y gwin yn rhy ddrud.
Nawr,mae’r dosbarth adolygu wedi gorffen a dw i’n edrych ymlaen at y
dosbarth nesaf yn Ysgol y Strade - Cwrs Uwch.
Dyn ni ddim wedi bod ar wyliau hyd yn hyn ond dyn ni’n mynd i Florida Mis
Hydref/Tachwedd am bythefnos.