30/03/2011
22/03/2011
Bues i yng Ngwesty’r Star nos Wener diwetha. Ro’n i’n synnu i weld llawer o bobl yn y dafarn ro’n i’n adnabod trwy fy ngwaith i, neu wedi cwrdd â rhywle arall dros y blynyddoedd. Siaradon ni am bopeth gyda’n gilydd drwy’r noson. Roedd awyrgylch neis yn y bar, dim sŵn uchel gyda cherddoriaeth, gallen ni gael sgwrs heb godi ein llais ni. Mae’r dafarn leol wedi mynd yn rhy ifanc i fi, gormod o sŵn a rhegi, so ti’n gallu clywed dy hunan yn meddwl a dweud y gwir. Dw i’n meddwl af i i Gwesty’r Star yn mwy aml yn y dyfodol.
Penwythnos brysur. Chwaraeais i golff ddydd Gwener, gyda Gareth a Neil, roedd y tywydd yn ardderchog, roedd hi’n neis i chwarae heb siwt wlyb!
Roedd dydd Sadwrn yn brysur iawn. Es i i glwb ffitwyd, DW, ym Mharc Trostre, am wyth o’gloch yn y bore. Ar ôl hynny, aeth fy ngwraig a fi i siopa. Am un o’r gloch aethon ni i gwrs rasus Ffos Las ar bwys Drimsaran. Enillon ni ddim arain ar ddiwedd y diwrnod ond roedd yn bleserus iawn. Dw i’n meddwl bod fy ngheffylau yn rhedeg o hyd. Gwelais i gwraig Gareth Golff ‘na ond ddim Gareth.
Nos Sadwrn, edrychais i ar Gymru yn erbyn Ffrainc ar y teledu, roedd Cymru yn wael, mae Cymru angen blaenwyr mwy cryf. Gwnaeth Cymru ormod o gamgymeriadau. Pencampwriaeth y Byd ddiwedd yr Haf - dim siawns.
Ddydd Sul, daeth fy wyrion a mab i ginio dydd Sul, hedfanodd y bwyd i bobman!
16/03/2011
Annwyl Gyfeillion,
Bues i yng Nghinio Blynyddol Clwb Rygbi Felinfoel nos Wener diwetha yng Ngwesty’r Diplomat. Roedd pedwar o ni gyda’n gilydd ar fwrdd o ddeg dyn. Cawson ni bryd o fwyd hyfryd iawn. Cwrddais i â dyn o’r Gogledd ar yr un bwrdd â ni, roedd e wedi byw yn Llanelli ers 2007, mae e’n drefnydd swyddogaeth i gwmni yn Abertawe. Ro’n i’n siarad Cymraeg gyda’n gilydd trwy’r noson. Paul Wallace, Y Llew Prydeinig oedd y siaradwr ar y noson, roedd e’n dda iawn. Roedd y comedïwr yn ddoniol hefyd. Mwynheuon ni i gyd y noson.
Dw i wedi gorffen ffurflen y Cyfrifiad. Mae llawer o wybodaeth
bersonol yn y ffurflen! Gwnes i’r ffurflen ar y ryngrwyd, roedd e’n fwy
hawdd. Chwaraeais i golff gyda Neil Cymraeg a Neil Saesneg yr wythnos
hon. Roedd Neil Cymraeg yn ddoniol fel arfer. Roedd hi’n neis chwarae
golff mewn tywydd da. Enillais i ddwy wers golff yn y raffl
Nadolig yng Nglyn Abbey - bydda i’n aros am dywydd da a thwym cyn y wers dw i’n meddwl. Roedd dwy ddamwain ddrwg dros y
penwythnos a chafodd dau ddyn eu lladd yn yml Bont - un mewn damwain
beic modur ac un mewn damwain awyren - trist iawn.
08/03/2011
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi cael penwythnos dawel, dim ond ’mas am gwpl o beints nos Sul. Chwaraeais i golff gyda Neil Price a Neil Blower y bore yma, chwaraeodd y ddau ohonyn nhw’n eitha da ond ro’n i’n ofnadwy. Dyma’r gêm gyntaf i Neil Price ers mis Hydref, chwaraeodd e ddim yn y Gaeaf. Mae rhaid i ni ddefnyddio’r mats pan mae’r cwrs yn wlyb iawn, a so Neil yn hoffi defnyddio’r mats o gwbl. Mae’r tywydd yn neis iawn ar hyn o’r bryd, gobeithio bydd hi’n sefyll fel mae hi am gwpl o wythnosau, mae hi’n gwneud gwahaniaeth mawr i bawb pan mae hi’n heulog.
03/03/2011

Dydd Gwyl Dewi hapus!
Es i i’r ffair briodas yn Neuadd y Brangwyn ddydd Sul diwetha ac roedd e’n wych - brysur iawn ac roedd llawer o ddiddordeb yn fy ngwaith, felly dw i’n hapus. Mae lot o waith nawr i gysylltu â phawb! Aeth Seren, Evan ac Owain i’r ysgol a’r meithrin mewn gwisg Gymreig y bore ma. Edrychwch ar y llun atodiad - mae’n ddoniol! Dwi’n meddwl bod Owain yn disgywl fel chwaraewr rygbi bach!
Dw i’n mynd i’r ysgol y prynhawn ma gyda Owain, i weld Seren ac Evan yn canu mewn gwasanaeth. Dw i’n gobeithio fydd Owain ddim yn dechrau ymladd!
01/03/2011
Annwyl Gyfeillion,
Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi heddiw, gobeithio bod pobl wedi gwisgo cenhinen neu daffodil. Wel, mae mis Chwefror wedi cwpla - diolch byth. Allwn ni nawr disgwyl ymlaen at y gwanwyn, gobeithio bydd y tywydd yn dechrau gwellhau – mae’r ddau mis diwetha wedi bod yn ofnadwy yn fy marn i.
Es i i dŷ bwyta Altalia nos Gwener diwetha, noswaith sgwrsio gyda Menter Cwm Gwendraeth -roedd saith ohonon ni yna.Trefnais i gwrdd â Neil Price, camgymeriad mawr! Cawson ni noson dda iawn ond, cyrhaeddais i fy nhŷ i am chwarter i ddeuddeg. Aethon ni i Wetherspoons ar ôl Altalia - cwrddon ni â fy mrawd yng nghyfraith a cwpl o ffrindiau ro’n i wedi gweithio gyda blynyddoedd yn ôl.
Roedd tamaid bach o ben tost gyda fi fore dydd Iau, dw i byth yn dysgu gwers. Dim eto tan yr amser nesaf!!
Mae hanner tymor wedi gorffen, roedd e’n rhy fyr. Gofalon ni am ein hwyrion
ni trwy’r wythnos, fel arfer. Chwaraeais i golff ddydd Gwener yng
Nghlyn Abbey gyda Gareth a dydd Sadwrn, ym Mhentre Nicholas gyda fy mab
ifanca i ar y safle gyrru. Edrychais i ar y Scarlets nos Iau ym Mharc y
Scarlets yn erbyn Caeredin - enillodd y Scarlets. Hefyd, edrychais i ar
ormod o rygbi dros y penwythno - Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Oeddech
chi’n gwybod bod Cymru wedi ennill 19 Coron Driphlyg, 10 Camp Lawn a’r
Bencampwriaeth 24 gwaith. - gwybodaeth diwerth! Mae angen gŵyl arna i.
Bydd Gŵyl Dewi Sant yfory.