Fore dydd Sadwrn cwrddais i â Caryl yn Asda. Mae hi’n edrych yn iawn a hoffai hi gofio at bawb. Bydd hi’n dychwelyd i’r dosbarth mewn tua chwe wythnos. Chwaraeais i golf ddydd Gwener gyda fy mab ifanca ar y cwrs “par 3” yng Nghlyn Abbey, darganfyddais i lawer o bêli golf ar y maes ymarfer! Fel arfer, mae Gareth o Deneriffe yn darganfod y pêlau gyda ei lygad eryr! Archebais i docynnau i weld y “Welsh Champion Hurdle” yn Ffos Las dydd Sadwrn nesaf ar y pumed o Chwefror, dw i’n edrych ymlaen at y rasys, gobeithio dw i’n ddim yn mynd i golli llawer o arian. Ddoe es i i Barc y Scarlets i weld y Cwpan LV - trist iawn, roedd ugain o chwaerawyr y Scarlets ar goll o’r tîm, Collodd y Scarlets, wrth gwrs!
31/01/2011
25/01/2011
Annwyl Gyfeillion,
Wel,dyn ni mewn i'r ail wythnos yn barod. Roedd y tywydd yn gymylog dros y penwythnos, bwrodd hi damaid bach ddydd Sadwrn. Mae'r haul yn ddisglair heddiw-dydd Llun. Mae Jackie a fi'n torheulio ar bwys y pwll nofio(mae e'n fywyd caled ond yw e). Wel, nôl i ddarllen fy llyfr Cymraeg nawr, mae chwe 'da fi, dw i ar y trydydd ar y funud (Dych chi'n clywed Caryl a Bethan ???).
24/01/2011
Penwythnos dawel. Gwnes i fy ngwaith cartref Nos Wener, fel fy mod i’n gallu edrych ar Gwpan Heineken ar y teledu dros y penwythnos - gwaith caled. Collodd y Scarlets yn erbyn tîm Ffrengig, does dim tîm o Gymru yn y rownd nesa’ - trist iawn. Es i i’r safle gyrru cyhoeddus ym Mhentre Nicholas ddydd Sadwrn am awr. Gobeithio, dw i’n mynd i chwarae golff fore dydd Llun. Bwcais i i fynd i Florida eto, awn ni am wyliau mis Tachwedd am bythefnos gyda fy ail mab â’i deulu e.
20/01/2011
Cafodd Evan a fi’r ffliw cyn Nadolig ac roedd e’n ofnadwy. Hefyd mae’r plant wedi cael tonsillitis, ond mae pawb yn well nawr dw i’n falch i ddweud!
Dw i’n brusur iawn ar hyn o bryd gyda fy ngwaith. Ces i lythyr neis iawn oddi wrth y palas! Maen nhw’n dweud diolch i fi am y sample a dweud …’my offer would be considered carefully during the planning process’…Dwi’n lico so nhw’n dweud ‘Na’!!
Roedd hi’n neis iawn i weld pawb yn y dosbarth wythnos diwethaf a dw i wedi gwenud fy ngwaith cartref yn barod… Hwre!!
18/01/2011
Mae Mis Chwefror yn dod! Mae’r amser yn mynd yn gymylog. Wythnos dawel ond
chwaraeais i golff gyda Gareth Tenerife ddydd Gwener diwetha, roedd
y tywydd yn iawn ond ofnadwy ers dydd Gwener.
Es i i Barc y Scarlets neithiwr ond enillodd y Scarlets ddim yn
erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Heineken. Roedd gêm yn gyffrous ond roedd blaenwyr Caerlŷr yn rhy gryf. Collodd y dyfarnwr ei ffon wen yn ystod y gêm e, hefyd - Dyfarnwr Gwyddeleg?
Mae Mis Chwefror yn dod! Mae’r amser yn mynd yn gymylog. Wythnos dawel ond
chwaraeais i golff gyda Gareth Tenerife ddydd Gwener diwetha, roedd
y tywydd yn iawn ond ofnadwy ers dydd Gwener.
Es i i Barc y Scarlets neithiwr ond enillodd y Scarlets ddim yn
erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Heineken. Roedd gêm yn gyffrous ond roedd blaenwyr Caerlŷr yn rhy gryf. Collodd y dyfarnwr ei ffon wen yn ystod y gêm e, hefyd - Dyfarnwr Gwyddeleg?
12/01/2011
Annwyl Gyfeillion,
Wel, mae fy ngwraig a fi wedi cael digon o’r tywydd hyn - dyn ni’n mynd ar wyliau yn yr haul. Costa Adeje yn Tenerife (cost a lota - yn saesneg), yw’r lle ble dyn ni’n mynd, ar yr unfed ar bymtheg o’r mis hwn - dydd Sul nesa, yn y bore bach, o maes awyr Caerdydd. Dw i’n gallu’ch clywed chi i gyd yn dweud bod e’n haeddu’r gwyliau - ha ha!. Gobeithio bydd y tywydd yn dwym a heulog i ni yn Tenerife, bydd rhaid i ni aros i weld.
06/01/2011
Dw i wedi mwynhau’r gwyliau. Roedd un deg pedwar o'r teulu yn dathlu’r
Nadolig ddydd Llun diwetha yn y Bryngwyn a choginiais i ginio ddydd Nadolig i chwech ohonon ni. Ond cyn Nadolig ces i broblemau gydafy nghar! Yn gyntaf ces i fateri newydd, wedyn roedd fy “power steering pump” wedi torri lawr. Cymerodd y garej dau gais i’w atgyweirio fe.
Ar ol hynny torrodd fy monitor cyfrifiadur ac roedd rhaid i fi brynnu
un newydd! Wedyn concodd mas ein microwave hefyd!! Ar
hyn o bryd mae’r ffliw ar fy ngwraig.
Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Ges i Nadolig hyfryd ond dw i nôl yn y gwaith 'fory yn anffodus! Daeth fy mrawd adre Noswyl Nadolig ac arhosodd e gyda ni. Mae fy ngwr i wedi bod yn dost dros y gwyliau - roedd y ffliw arno fe, ac roedd rhaid i fi goginio cinio Nadolig! Roedd popeth yn iawn diolch byth. Roedd pump ohonon ni i ginio Dydd Nadolig a 'Boxing Day'. Gaeth Joe Wii i Nadolig a llawer o anrhegion arall. Roedd e mor gyffrous! Nos Galan aethon ni i Frankie a Benny’s am bryd o fwyd ond ro ni'n adre erbyn 7 o'r gloch. Bwytais i ormod dros y Nadolig felly mae'r ddiet yn dechrau wythnos nesa.
04/01/2011
Mae’n 02 Mis Ionawr ac mae’r Nadolig wedi gorffen eto- yn rhy gyflym. Yr wythnos diwetha chwaraeais i golff eto, gyda Gareth, roedd y tywydd yn ddrwg dros y Nadolig ac roedd hi’n oer iawn ar y cwrs golff. Dynion gwrol! Dechrauais i gadw’n heini eto, bwytais i ormod dros y gwyliau. Ddydd Mercher diwetha aethon ni i’r Bryngwyn ym Mhwll a gaethon ni fwyd ardderchog. Ymwelon ni â fy nhri mab ar fy tri wyrion i ginio heddiw, neis iawn ond mae fy wyr ifanca’n brysur iawn.Ro’n i wedi blino’n lân, henaint ni ddaw ei hunan!! Ond neis iawn i gael wyrion.
Annwyl Gyfeillion,
Wel dyn ni ar y ffordd yn ôl nawr, mae’r dydd byra wedi bod. Dw i’n meddwl ein bod ni’n gallu edrych ymlaen at y dyddiau hirach yn dod o’n blaen ni, a’r tywydd yn gwella hefyd. Fore dydd Mercher chwaraeais i gêm o golff gyda Mike o’r dosbarth Cymraeg, roedd y cwrs yn eitha da ar ôl yr eira a dweud y gwir.
Nos Iau diwetha es i i’r “Biddings” i ddathlu’r Nadolig gyda Neil Cymraeg,
Neil Saesneg, Allan a Gareth(dim drwg ar y noson!). Roedd y noson yn ddoniol a hyfryd.
Cynhyd bod y siopau ar agor, siopodd fy ngwgraig yn frwdfrydig. Ro’n i happus iawn pan oedd y siopau yn cau.
Ganol fore dydd Nadolig, ymwelon ni â fy ail fab Dean, ei wraig e Suzi a
fy wyrion Elena a Lewis - ro’n nhw yn gyffrous iawn. Roedd Sion Corn
wedi dod â llawer o anrhegion. Gaethon ni dwrci mawr i ginio
Nadolig - bwyton ni ormod o fwyd, wrth gwrs. Roedd noswaith Nadolig
dawel ac edrychon ni ar y teledu.
Chwaraeais i ddim golff dros yr wythnos ddiwetha oherwydd roedd y tywydd
yn ofnadwy. Dw i’n meddwl fyddwn i ddim wedi ffindio’r bêl gwyn yn yr
eira os ro’n i wedi chwarae beth bynnag. Rhagor o amser i siopa
Nadolig dwedodd fy ngwraig, neis iawn! Un peth da, edrychais i ar y
Scarlets ar y teledu, enillodd y Scarlets yn erbyn Benetton Treviso yn
Yr Eidal yng Nghwpan Heineken. Mae Scarlets ar ben eu grŵp nhw. Fore dydd
Sul daeth fy wyress hena i ginio, mae hi’n ddeuddeg oed, gwnaeth hi’n
siwr bod Sion Corn yn gwneud dim camgymeiriadau gyda ei hanrhegion hi!! Dw
i’n gobeithio roedd y Nadolig neis ‘da chi a Blwyddyn Newydd Dda i
bawb.
Annwyl Gyfeillion,
Cawson ni noswaith dda iawn nos Iau diwetha yng ngwesty’r ‘Thomas Arms’ gyda’r bobl o’n dosbarth ni a’r bobl o’r dosbarth Uwch. Roedd y bwyd yn flasus a’r cwrw a gwin yn neis hefyd. Doedd cwpwl o bobl ddim yn gallu dod achos bod y tywydd yn wael neu ro’n nhw’n sâl, ond roedd Mike, Allan, Scott, Neil a fi o’n dosbarth ni, fy ngwraig Jackie a chwech o’r dosbarth Uwch dw i’n credu. Roedd Scott yn hwyr fel arfer. Aeth y noswaith yn dda iawn, dw i’n credu.